Hysbysiad o ddyddiad penodiEd ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Cyngor Cymuned Llandudoch
Diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2020
- Dyddiad cyhoeddi 08.2020
- Bob blwyddyn, caiff y cyfrifon blynyddol eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson â diddordeb y cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl rhoi rhybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020, bydd y dogfennau hyn ar gael ar hysbysiad rhesymol wrth wneud cais i:
Cyngor Cymuned Llandudoch, Dworek, Sarnau, Llandysul, SA44 6PX rhwng yr oriau o 10 – 3 o ddydd Llun i ddydd Gwener
yn dechrau ar 7fed o Fedi 2020
ac yn diweddu ar yr 2il o Hydref 2020
- O 3 Hydref 2020 hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan etholwyr llywodraeth leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton; a chael
- yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
- [Gellir cysylltu â Grant Thornton yn: Grant Thornton, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT]
- Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 a chod ymarfer archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.